#                                                                                      

Y Pwyllgor Deisebau | 9 Gorffennaf 2019
 Petitions Committee | 9 July 2019
 
 
 ,Papur Briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Rhif y ddeiseb: P-05-891

Teitl y ddeiseb: Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith

Cynnwys y ddeiseb:

​Nid yw Profion Rhifedd a Darllen Cenedlaethol i blant mor ifanc â 6 oed yn addas at y diben a dylid dod â nhw i ben cyn gynted â phosibl. Nid y ffordd orau ar gyfer plant ifanc sydd wedi'u hannog i ddysgu drwy chwarae yw eu hasesu drwy eistedd am hyd at 40 munud i gwblhau prawf.

Er bod Llywodraeth Cymru yn argymell nad oes angen paratoi, mae'n anochel bod ysgolion yn cymryd amser o'u gwaith dysgu arferol i sicrhau bod plant yn gyfarwydd â fformat y profion ac mae plant yn aml yn cael trafferth deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Mae hyn yn arwain at golli hyder a mwynhad dysgu ar oedran mor ifanc a allai fod yn niweidiol i'w dysgu parhaus.

Mae Adolygiad Donaldson (Dyfodol Llwyddiannus, 2015) yn argymell y dylai unrhyw asesiadau fod 'mor ysgafn eu cyffyrddiad â phosibl', 'osgoi biwrocratiaeth ddiangen', gan gynnwys 'asesiadau cyfannol o gyflawniadau' a defnyddio 'hunanasesu ac asesu gan gyfoedion' i 'annog plant a phobl ifanc i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain'. Mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers yr adolygiad hwn ac mae'r profion hyn yn dal i gael eu cynnal. O ganlyniad mae angen dod â fformat presennol yr asesiad strwythuredig i ben ar unwaith.

 

 

1.        Y cyd-destun polisi wrth gyflwyno'r profion

Mae disgyblion o Flwyddyn 2 (chwech oed ar ddechrau'r flwyddyn) hyd at Flwyddyn 9 (13 oed ar ddechrau'r flwyddyn) yn sefyll Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Fe'u cyflwynwyd yn 2013 fel rhan o bolisi Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu llythrennedd a rhifedd o fewn 'cynllun ugain pwynt' mewn ymateb i ganlyniadau siomedig Cymru yn y Rhaglen Asesu Myfyrwyr (PISA) yn 2009. I gael rhywfaint o gefndir hanesyddol, gweler cyhoeddiad 2013 gan Ymchwil y Senedd, Llythrennedd a rhifedd yng Nghymru.

Roedd Prif Arolygydd Estyn ar y pryd, Ann Keane, wedi pwysleisio’r pwysigrwydd (gweler er enghraifft y Rhagair i'w hadroddiad blynyddol 2011-12) o gael set fwy cydlynol o ddata i ysgolion eu defnyddio i gymharu lefelau darllen a rhifedd eu disgyblion â'r rheini o ysgolion eraill. Cyn cyflwyno'r profion cenedlaethol yn 2013, roedd awdurdodau lleol yn defnyddio profion darllen gwahanol ar gamau gwahanol gan olygu, er bod Estyn wedi casglu'r canlyniadau hynny ar wahân i awdurdodau lleol, nad oedd yn bosibl cymharu’r data. Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi:

Mae’n anodd, felly, dod i gasgliadau cyffredinol heblaw am ddweud y byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe bai’r holl awdurdodau wedi gallu defnyddio’r un profion. (Adran 1 o adroddiad blynyddol 2011-12: Blaenoriaethau a darpariaeth, tud4)

Bu amheuon hefyd ers tro ynghylch pa mor ddibynadwy yw’r asesiadau athrawon o fewn system atebolrwydd arbenigol, lle mae canlyniadau’r asesiadau athrawon yn cael eu defnyddio i fesur perfformiad ysgol yn allanol. Cyflwynodd Estyn adroddiad yn ôl yn 2013/14 a oedd yn nodi 'nad yw asesiadau athrawon mewn ysgolion bob amser yn ddigon cadarn neu ddibynadwy', gyda 'diffyg cyfatebiaeth rhwng y lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol a ddyfarnwyd gan staff ac ansawdd gwaith y disgyblion'.

2.        Casglu data

Ar hyn o bryd mae tri math o brawf cenedlaethol y mae disgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9 yn eu sefyll – Darllen, Rhifedd (gweithdrefnol) a Rhifedd (rhesymu). Dyma yw’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol, sef pwnc y ddeiseb hon.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ynghylch canlyniadau'r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol, bob mis Awst. Er bod y data hwn yn dangos darlun cenedlaethol o lefelau sgiliau darllen a rhifedd disgyblion ym mhob grŵp oedran mewn blwyddyn benodol, nid yw’n golygu bod modd gwneud cymariaethau rhwng y blynyddoedd gan fod y sgoriau yn cael eu safoni’n annibynnol bob blwyddyn.

At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio (fel y mae’r llythyr gan y Gweinidog Addysg dyddiedig 3 Mehefin 2019 yn ei nodi) nad diben y profion yw cymharu galluoedd disgyblion rhwng ysgolion, nac rhwng awdurdodau lleol. Yn hytrach, eu prif ddiben bwriadedig yw llywio addysgu a dysgu'r disgybl sy'n cael ei asesu yn y dyfodol, fel y mae'r adran a ganlyn yn ei esbonio.

3.        'Asesu ar gyfer dysgu ac nid atebolrwydd'

Mae asesu ar gyfer dysgu yn golygu y dylai asesiadau athrawon o ddisgyblion fod yn ffurfiannol ei natur yn bennaf yn hytrach na chrynodol, h.y. maent yn l lywio'r addysgu a'r dysgu parhaus sy'n gysylltiedig â'r disgybl hwnnw yn hytrach na mesur canlyniad cyfnod dysgu yn erbyn safon neu feincnod. Felly, defnyddir technegau asesu ar gyfer dysgu drwy raglen astudio benbaladr yn hytrach nag ar y diwedd yn unig.

Mae defnyddio asesu ar gyfer dysgu yn hytrach nag at ddibenion atebolrwydd wedi’i argymell gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (gweler Adolygiad 2014 ac Asesiad Polisi Cyflym 2017) a'r Athro Graham Donaldson (gweler Dyfodol Llwyddiannus, 2015 a’r Arolygiaeth Dysgu, 2018).

Dywed Llywodraeth Cymru mai prif ddiben y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yw llywio addysgu a dysgu h.y. trwy nodi gallu darllen a rhifedd disgybl, ac felly ei gryfderau a'i wendidau, er mwyn ategu ymdrechion i gefnogi ei ddysgu parhaus. Fel y dywedodd y Gweinidog Addysg yn ei datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Ionawr 2019:

… golyga hyn fod athrawon yn cael gwybodaeth lawnach o lawer ac y byddan nhw'n gallu paratoi gwersi sy'n fwy uniongyrchol ar gyfer cynorthwyo dysgwyr i wella.

4.        Asesiadau Personol

Fel y mae llythyr y Gweinidog yn ei amlinellu, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Asesiadau Personol ymaddasol ar-lein fesul cam i gymryd lle’r profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol papur presennol. Rhifedd (gweithdrefnol) oedd y cyntaf i symud i fersiwn ar-lein bersonol yn 2018/19. Bydd asesiadau darllen yn dilyn yn 2019/20 ac yna Rhifedd (rhesymu) yn 2020/21. Dywedodd y Gweinidog mewn datganiad ar 24 Mai 2017:

Bydd yr asesiadau newydd yn addasu anhawster y cwestiynau i gyd-fynd ag ymateb y dysgwr, gan gymhwyso i ddarparu her addas i bob unigolyn. Mae hyn yn golygu y bydd pob dysgwr yn cael cwestiynau sy’n gydnaws â’u sgiliau unigol ac yn eu herio mewn darllen a rhifedd. Bydd ysgolion yn cael gwybodaeth o ansawdd uchel wedi’i theilwra am sgiliau pob dysgwr a gallant ddefnyddio’r wybodaeth honno fel tystiolaeth ychwanegol i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer addysgu a dysgu. Bydd y profion yn marcio eu hunain ac yn gydnaws â systemau rheoli gwybodaeth ysgolion. Bydd athrawon a dysgwyr yn cael adborth penodol ac uniongyrchol o ansawdd uchel, a bydd hynny’n rhoi gwell syniad iddynt ynglŷn â sut y gallant fynd i’r afael â chryfderau a gwendidau pob dysgwr.

Rhoddodd Kirsty Williams AC ragor o wybodaeth am asesiadau personol yn ei datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Ionawr 2019.

Mae Ymchwil y Senedd eisoes wedi cyhoeddi erthyglau blog ar faterion asesu ar gyfer dysgu a'r newid i asesiadau personol (Ionawr 2019 a Mai 2017).

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.